Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

CYPE(4)-15-15 – Papur 1

Ymchwiliad i Waith Athrawon Cyflenwi

Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru

 

Cyflwyniad

 

1.    Diben y papur hwn yw cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig ynghylch gwaith athrawon cyflenwi yng Nghymru.  Bydd y dystiolaeth hon yn cael ei hystyried fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i waith athrawon cyflenwi.  Mae strwythur y papur hwn yn cyd-fynd â phrif feysydd ymchwiliad y Pwyllgor.

 

2.    Derbynnir yn gyffredinol mai safon athrawon yw'r ffactor unigol pwysicaf sy'n cael yr effaith fwyaf ar wella deilliannau dysgwyr.  Mae gan bob athro sy'n gweithio gyda dysgwyr o fewn ein hysgolion, beth bynnag y bo ei statws cyflogaeth, swyddogaeth hollbwysig o safbwynt ceisio codi safonau ar draws ein system addysg yng Nghymru.

 

3.    Mae athrawon cyflenwi'n ffurfio rhan arwyddocaol a phwysig o'r gweithlu athrawon yng Nghymru.  O'r herwydd mae'n bwysig sicrhau bod ganddynt hwy, yn yr un modd ag athrawon eraill, y sgiliau priodol ar gyfer darparu addysg o'r radd flaenaf.  Mae ganddynt swyddogaeth bwysig iawn o safbwynt sicrhau parhad dysgu tra bo athrawon yn absennol, boed am gyfnod byr neu gyfnod hirach. 

 

4.    Mae Llywodraeth Cymru'n awyddus iawn i sicrhau bod athrawon cyflenwi o safon uchel iawn ar gael a gaiff eu defnyddio'n effeithiol er mwyn cefnogi addysg ein pobl ifanc yn y ffordd fwyaf cost-effeithiol.

 

Y Cefndir

 

5.    Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae'r tri adroddiad canlynol wedi cyfeirio at y defnydd o athrawon cyflenwi yng Nghymru:

a.    Effaith Absenoldeb Athrawon, Estyn, Medi 2013;

b.    Trefniadau Cyflenwi ar gyfer Absenoldeb Athrawon, Swyddfa Archwilio Cymru, Medi 2013; a

c.    Cyflenwi ar gyfer Absenoldeb Athrawon, Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, Mai 2014

 

6.    Roedd y tri adroddiad yn cynnwys dadansoddiad defnyddiol a chynhwysfawr o'r defnydd o athrawon cyflenwi yng Nghymru ac maent yn mynd i'r afael â nifer o faterion y mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn eu hystyried ar hyn o bryd. Ers eu cyhoeddi mae Llywodraeth Cymru wedi mynd ati'n rhagweithiol i fynd i'r afael â'u gwahanol argymhellion gan gynnwys datblygu dogfen ganllaw ynghylch Rheoli'n Effeithiol Bresenoldeb y Gweithlu Addysg a gaiff ei chyhoeddi ym mis Gorffennaf 2015.

 

7.    Mae'r ddogfen ganllaw wrthi'n cael ei drafftio ar y cyd â swyddogion awdurdodau lleol ac mae rhanddeiliaid allweddol o'r sector yn cyfrannu ati. Bydd y ddogfen yn creu fframwaith ar gyfer gwella'r modd y caiff gwersi eu cyflenwi, gan sicrhau cyn lleied â phosibl o darfu ar ddysgu plant; gwerth am arian ar gyfer addysg; a lleihau absenoldebau athrawon.

 

8.    Caiff y canllawiau eu hanfon i bob ysgol, awdurdod lleol, consortia ac at swyddogion Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod pob partner yn deall ei rôl a'i gyfrifoldebau o safbwynt sicrhau bod gwersi'n cael eu cyflenwi mewn modd effeithiol.  Bydd y canllawiau'n mynd i'r afael â nifer o argymhellion a gaiff eu pennu yn yr adroddiadau a gyhoeddwyd gan Estyn, Swyddfa Archwilio Cymru a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.  Yn ogystal â phennu rolau a chyfrifoldebau rhanddeiliaid allweddol, bydd y ddogfen yn cynnwys polisïau enghreifftiol, enghreifftiau o arferion gorau ac adnoddau addas (er enghraifft, llawlyfr ymsefydlu amlinellol) ar gyfer ysgolion.

 

Nifer yr athrawon cyflenwi a'r defnydd ohonynt

 

9.    Nid yw nifer yr athrawon cyflenwi sydd wedi'u cofrestru yng Nghymru wedi newid llawer iawn dros y pum mlynedd diwethaf.  Mae data gan Gyngor y Gweithlu Addysg yn dangos bod ychydig dros 5000 yn 2009 ac oddeutu 4800 ym mis Rhagfyr 2014.  Mae gofyn i athrawon ddiweddaru eu data eu hunain os bydd eu statws o ran cyflogaeth yn newid.  Eto i gyd, nid yw Cyngor y Gweithlu Addysg yn mynd ati'n rhagweithiol i gysylltu ag athrawon er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd.

 

10.Caiff cyflogaeth athrawon cyflenwi ei llywodraethu gan gyfuniad o gyfraith Cyflogaeth y DU (gan gynnwys y Gyfarwyddeb Gweithwyr Dros Dro) a'r ddogfen Tâl ac Amodau Athrawon Ysgol.  Nid yw tâl ac amodau athrawon ysgol yn fater sydd wedi'i ddatganoli i'r Cynulliad ac felly Adran Addysg Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol amdano.

 

11.Yn y pen draw, dyletswydd penaethiaid unigol yw pennu'r ffordd orau o reoli absenoldebau a threfnu bod athrawon cyflenwi ar gael.  Bydd gofyn iddynt gydweithio â'u Corff Llywodraethu a thîm ehangach yr ysgol i gyflawni hyn.

 

12.Mae Adroddiadau Swyddfa Archwilio Cymru ac Estyn yn amcangyfrif y cafodd ychydig llai na 10% o'r holl wersi eu cyflenwi gan staff yn hytrach na'r athrawon arferol.  Gall staff amrywiol gymryd gwersi tra bo athrawon yn absennol gan gynnwys goruchwylwyr llanw, cynorthwywyr addysgu/cynorthwywyr addysgu lefel uwch neu athrawon cyflenwi. Mae gofyn sicrhau darpariaeth gyflenwi ar gyfer absenoldebau sy'n cael eu rhagweld (hyfforddiant, cefnogaeth gan gymheiriaid, absenoldeb mamolaeth/tadolaeth) ac absenoldebau nad ydynt yn cael eu rhagweld (salwch, absenoldeb yn sgil cwyn). 

 

13.Gwnaeth Adroddiadau Estyn, Swyddfa Archwilio Cymru a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus oll dynnu sylw at bwysigrwydd defnyddio data, ac yn benodol ddata ynghylch cyfraddau absenoldeb athrawon, er mwyn ceisio lleihau nifer y gwersi lle y mae angen sicrhau darpariaeth gyflenwi.

 

14.Mae'n hanfodol fod athrawon yn parhau i elwa ar gyfleoedd dysgu proffesiynol parhaus er mwyn cynnal a datblygu safon ac effeithiolrwydd eu hymarfer proffesiynol. Yn yr un modd â sawl proffesiwn arall, bernir mai rhannu ymarfer proffesiynol yw'r ffordd fwyaf effeithiol gan fwyaf o gefnogi a gwella ymarfer.  Gall hyn olygu trefnu bod athrawon yn arsylwi ar ymarfer athrawon eraill, gan fynd ati wedyn i ddefnyddio'r hyn y maent wedi'i ddysgu yn eu hymarfer eu hunain.  Bydd peth absenoldeb o'r ystafell ddosbarth yn anochel mewn sefyllfaoedd o'r fath ond dylai bob amser ddeillio o asesiad o fanteision mwy hirdymor gwella ymarfer o'i gymharu â'r effaith tymor byr ar barhad y dysgu.

 

15.Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i nifer o fentrau er mwyn gwella'r modd y caiff absenoldebau athrawon o'r ystafell ddosbarth eu monitro. Mae’r rhain yn cynnwys:

·         Datblygu'r ddogfen ganllaw Rheoli'n Effeithiol Bresenoldeb y Gweithlu Addysg a fydd yn pennu rolau a chyfrifoldebau awdurdodau lleol, consortia a Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chasglu, dosbarthu a dadansoddi data ynghylch ysgolion.  Bydd hefyd yn pennu cyfrifoldebau penaethiaid a llywodraethwyr o safbwynt darparu data ac ymateb i wahanol faterion;

·         Bydd y ddogfen ganllaw  hefyd yn cynnwys dulliau arferion gorau a ddylai gael eu hystyried wrth i gyfleoedd a digwyddiadau hyfforddi a datblygu gael eu trefnu ar gyfer athrawon.  Bydd hyn yn cynnwys sicrhau bod Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid yn ystyried y gwahanol opsiynau posibl wrth ddarparu cyfleoedd dysgu ar gyfer gweithlu ysgolion a sicrhau bod effaith absenoldebau athrawon o'r ystafell ddosbarth yn cael ei hystyried rhan o'r broses o wneud penderfyniadau.

·         Yr ymrwymiad i gyhoeddi'n flynyddol ddata ynghylch absenoldebau athrawon ar lefel awdurdod lleol er mwyn helpu i bennu unrhyw faterion neu dueddiadau posibl.  Bydd y data hyn ar gael ar gyfer ffurfio rhan o'r gwaith o fonitro, adolygu a herio arferion rheoli pobl o fewn awdurdodau lleol a chonsortia;

·         Cyhoeddi ym mis Ebrill 2015 y Model Cenedlaethol ar gyfer Gweithio'n Rhanbarthol - Adfywio Gwaith Rheoli Pobl mewn Ysgolion.  Mae'r ddogfen hon yn darparu fframwaith rheoli pobl ar gyfer cyflenwi swyddogaethau Adnoddau Dynol arbenigol.  Mae hefyd yn pwysleisio cyfrifoldebau ysgolion, awdurdodau lleol a chonsortia gan gynnwys adrodd ar ddata, eu casglu a'u dadansoddi er mwyn gwella perfformiad ysgolion;

 

Effaith defnyddio athrawon cyflenwi ar ddeilliannau disgyblion

16.Cynhaliodd Estyn adolygiad thematig yn 2013 ar effaith absenoldebau athrawon.  Gwnaeth yr adroddiad a ddeilliodd ohono ddisgrifio mewn manylder effaith absenoldebau athrawon o'r ystafell ddosbarth ar ddeilliannau disgyblion.

 

17.Cyflwynodd Estyn nifer o argymhellion i ysgolion, awdurdodau lleol a chonsortia.  Yn ogystal â thynnu sylw'r cyrff perthnasol at yr argymhellion hyn mae Llywodraeth Cymru wrthi'n datblygu'r ddogfen ganllaw Rheoli'n Effeithiol Bresenoldeb y Gweithlu Addysga gaiff ei chyhoeddi yn ystod tymor yr haf.  Bydd y ddogfen hon yn adlewyrchu'r arferion da a gaiff eu pennu yn adroddiadau Estyn, Swyddfa Archwilio Cymru a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a bydd yn cynnwys gwahanol adnoddau (polisïau enghreifftiol, fframweithiau ac offer) y gall ysgolion eu haddasu a'u gweithredu er mwyn gwella ansawdd y ddarpariaeth gyflenwi o fewn ystafelloedd dosbarth a lleihau'r amlder.

 

18.Bydd Llywodraeth Cymru'n cyflwyno cais i Estyn am adolygiad thematig pellach yn 2016/17 ynghylch trefniadau cyflenwi ac er mwyn asesu effeithiolrwydd y canllawiau.  Bydd hyn yn ei gwneud hi'n bosibl i'r ddogfen ganllaw newydd gael ei datblygu a'i sefydlu am flwyddyn academaidd gyfan cyn i'r astudiaeth gael ei chynnal.

 

Dysgu Proffesiynol

 

19.Mae'r Fargen Newydd i'r Gweithlu Addysg yn sicrhau bod gan bob ymarferwr addysg yng Nghymru, gan gynnwys athrawon cyflenwi, hawl i fanteisio ar gyfleoedd dysgu proffesiynol o'r radd flaenaf er mwyn datblygu ei ymarfer gydol ei yrfa.  Bydd gweithgareddau dysgu proffesiynol o fewn ysgolion yn ategu'r Fargen Newydd a bydd cyfleoedd dysgu hefyd ar gael drwy ddeunyddiau ac adnoddau dysgu proffesiynol ar-lein.  Bydd hyn yn creu trefn mwy hyblyg ac effeithiol a fydd yn galluogi pob athro i ddatblygu a bydd hefyd yn cyfrannu at wella safonau athrawon ac yn lleihau eu habsenoldeb o'r ystafell ddosbarth at ddibenion hyfforddi.

 

20.Mae gofyn i ysgolion gynnwys yn eu Cynlluniau Datblygu Ysgol fanylion ynghylch eu darpariaeth ar gyfer bodloni anghenion dysgu proffesiynol pob aelod o staff, gan gynnwys staff a gaiff eu lleoli yn yr ysgol dros dro, a fydd yn cynnwys athrawon cyflenwi tymor byr a hirdymor.

 

21.Mae New Directions, sydd wedi derbyn yn ddiweddar y Cytundeb Fframwaith ar gyfer Darparu Athrawon Cyflenwi (gweler para. 30), wedi ymrwymo i gyflenwi hyfforddiant a dysgu proffesiynol perthnasol.  Mae New Directions yn darparu hyfforddiant ynghylch diogelu, rheoli'r ystafell ddosbarth a rheoli gwrthdaro ac ymddygiad drwy'r rhaglenni Team Tach i'w holl athrawon cyflenwi.

 

Rheoli Perfformiad

 

22.Cafodd Rheoliadau Arfarnu diwygiedig eu cyflwyno yn 2011 a oedd yn mynd i'r afael â Rheoli Perfformiad athrawon a phenaethiaid.  Roedd y rheoliadau hefyd yn crybwyll athrawon digyswllt sydd gan amlaf yn cynnwys athrawon a gaiff eu cyflogi'n ganolog gan awdurdodau lleol.

 

23.Roedd y rheoliadau diwygiedig hefyd yn cynnwys darpariaeth ar gyfer rheoli perfformiad athrawon a gaiff eu lleoli mewn ysgol am dymor neu fwy. Cyn hyn y cyfnod lleiaf oedd blwyddyn.  Golyga hyn y bydd nifer uwch o athrawon cyflenwi sy'n gwneud gwaith cyflenwi am gyfnod mwy hirdymor yn dod o fewn cwmpas y rheoliadau, ac felly bydd polisi Rheoli Perfformiad yr ysgol yn berthnasol iddynt.

 

24.Nid yw'r rheoliadau'n berthnasol i athrawon ar gontractau tymor byr o lai nag un tymor.  Roedd hyn yn adlewyrchu'r anawsterau ymarferol a oedd ynghlwm wrth weinyddu cylch Rheoli Perfformiad dros gyfnod mor fyr.

 

25.Eto i gyd, mae dyletswydd ar ysgolion o hyd i fonitro a rheoli'n effeithiol berfformiad unrhyw staff sy'n gweithio yn yr ysgol, beth bynnag y bo hyd eu cyflogaeth, er nad yw hynny'n cael ei nodi yn y rheoliadau.

 

26.Mae New Directions, sydd wedi derbyn yn ddiweddar y Cytundeb Fframwaith ar gyfer Darparu Athrawon Cyflenwi (gweler para. 30), wedi ymrwymo i reoli perfformiad eu holl athrawon cyflenwi.

 

Rôl awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol

 

27.Mae'r Model Cenedlaethol ar gyfer Gweithio'n Rhanbarthol - Adfywio Gwaith Rheoli Pobl mewn Ysgolion, a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2015, yn darparu fframwaith rheoli pobl ar gyfer cyflenwi swyddogaethau Adnoddau Dynol arbenigol.  Mae'r ddogfen hon yn adeiladu ar y gofynion a gaiff eu pennu yn y Model Cenedlaethol ar gyfer Gweithio'n Rhanbarthol (Dogfen ganllaw 126/2014).  Noda'r ddogfen y gofyn i gynlluniau busnes y consortia ddisgrifio sut y caiff cefnogaeth o ran Adnoddau Dynol gan awdurdodau lleol ei darparu i ysgolion.  Mae hefyd yn disgrifio cyfrifoldebau awdurdodau lleol a chonsortia o safbwynt darparu cefnogaeth a gwasanaethau Adnoddau Dynol.  Mae'r ddogfen yn cyfeirio'n benodol at y gofyn i awdurdodau lleol gyflenwi gwasanaethau cynghori a gwasanaethau cymorth o ran Adnoddau Dynol i ysgolion o dan Gytundeb Lefel Gwasanaeth.  Noda'r ddogfen y bydd gofyn i ysgolion a chyrff llywodraethu gymryd rhan mewn rhaglenni datblygu a hyfforddiant fel y gallant ysgwyddo eu cyfrifoldebau o ran rheoli pobl.

 

28.Caiff cynlluniau busnes o ran darparu gwasanaethau Adnoddau Dynol ar gyfer ysgolion eu monitro drwy adolygiad blynyddol y Gweinidog a digwyddiadau her gyda phob consortiwm.  Os bydd materion yn ymwneud ag Adnoddau Dynol yn cael effaith andwyol ar gamau i wella ysgolion byddwn yn mynd ati ar y cyd i ddadansoddi'r achosion ac yn pennu camau ymyrryd addas.

 

29.Bydd Rheoli'n Effeithiol Bresenoldeb Gweithlu Ysgolionyn nodi'n glir rolau a chyfrifoldebau awdurdodau lleol a chonsortia o ran sicrhau darpariaeth gyflenwi effeithiol mewn gwersi, athrawon cyflenwi ac asiantaethau cyflenwi.

 

Asiantaethau Cyflenwi a Sicrhau Ansawdd

 

30.Datblygodd a dyfarnodd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol gytundeb fframwaith ar gyfer Gwasanaeth a Reolir i ddarparu Gweithwyr Asiantaeth, yn cynnwys athrawon cyflenwi, ar 8 Ebrill 2015.  Dyfarnwyd y cytundeb gan y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ar ran Sector Cyhoeddus Cymru, yn cynnwys 22 Awdurdod Lleol Cymru, am gyfnod o dair blynedd.  Gall y cytundeb gael ei estyn am flwyddyn arall.  Y cyflenwr unigol llwyddiannus ar Lot 3 - Addysg oedd New Directions Education Limited.  Yn ystod cyfnod datblygu'r tendr bu'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol mewn cysylltiad â'r Adran Addysg a Sgiliau.  Bu hyn o gymorth o safbwynt atgyfnerthu'r fanyleb a'r meini prawf technegol a oedd ynghlwm wrth faterion fel Hyfforddiant Proffesiynol a Dysgu. Cydweithiodd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol â chynrychiolwyr o Awdurdodau Lleol Cymru yn ogystal.

 

31.Bydd Lot 3 yn cychwyn ar 1 Awst 2015, yn barod ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd. Bydd y fframwaith Cymru Gyfan presennol gyda New Directions (a gafodd ei osod gan Gyngor Dinas Caerdydd yn 2012) yn parhau hyd hynny.

 

32.Mae 22 Awdurdod Lleol Cymru wedi ymrwymo i ddefnyddio'r Cytundebau Fframwaith y mae'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol wedi'u sefydlu, ac o'r herwydd byddant yn disgwyl i'w hysgolion ddefnyddio'r fframwaith ar gyfer bodloni eu gofynion o ran athrawon cyflenwi.  Eto i gyd, gall ysgolion ddefnyddio unrhyw drefn o ran cyflenwi ar gyfer eu gwersi.

 

33.Mae'r gwariant o dan y fframwaith Cymru Gyfan presennol wedi parhau i gynyddu bob blwyddyn, sy'n dangos bod y rhan fwyaf o gwsmeriaid y fframwaith yn defnyddio darparwr y fframwaith ar gyfer cyflawni'r gofyniad hwn (lle y mae'r gofyniad yn bodoli).  Y tu allan i'r fframwaith hwn, credir bod ysgolion yn parhau i ddefnyddio gwahanol gyflenwyr eraill. Mae oddeutu 50 o asiantaethau athrawon cyflenwi eraill yn gweithredu yng Nghymru ar hyn o bryd.

 

34.Yn 2007, cyflwynodd Llywodraeth Cynulliad Cymru Farc Ansawdd Cymru, sef cynllun gwirfoddol sy'n ceisio hybu arferion diogel o safbwynt recriwtio athrawon cyflenwi mewn ysgolion yng Nghymru.  Derbyniodd y Cydffederasiwn Recriwtio a Chyflogi, sef corff rhychwantu cydnabyddedig ar gyfer y diwydiant recriwtio, y contract a gwnaeth reoli'r cynllun ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru o fis Ebrill 2007. Gwnaeth y cynllun gostio ychydig dros £216,000 dros gyfnod o bedair blynedd.

 

35.Yn ystod haf 2010, cynhaliwyd adolygiad o'r cynllun gan swyddogion. Aethant ati i geisio barn asiantaethau cyflenwi, undebau athrawon a phartneriaid eraill ynghylch effaith y marc ansawdd o ystyried ei nodau.

 

36.Datgelodd y dystiolaeth a gasglwyd drwy'r gwaith dadansoddi critigol mai cyfyng oedd gallu'r cynllun o safbwynt ei ddylanwad ar arferion recriwtio a rheoli pob asiantaeth gyflenwi.  Mynegodd swyddogion eu pryderon ynghylch effeithiolrwydd presennol y cynllun a'i effeithiolrwydd yn y dyfodol, ei fethiant i ddangos gwerth am arian, a'r gefnogaeth gyfyngedig yr oedd wedi'i derbyn gan asiantaethau cyflenwi, athrawon ac undebau'r athrawon.  Nid oedd llawer o dystiolaeth a awgrymai fod asiantaethau cyflenwi yng Nghymru wedi addasu'n sylweddol y modd yr oeddent yn ymgymryd â'u gwaith (ac yn arbennig o ran tâl ac amodau) yn sgil cyflwyno cynllun Marc Ansawdd Cymru.

 

37.Penderfynodd y Gweinidog ar y pryd ym mis Rhagfyr 2010, ar sail yr adolygiad, na fyddai'r cynllun yn parhau ar ôl mis Mawrth 2011.

 

38.Mae'r Cydffederasiwn Recriwtio a Chyflogaeth wedi lansio'r cynllun Addysg wedi'i Harchwilio, sef safon newydd ar gyfer recriwtio ym myd addysg sy'n adeiladu ar sylfeini'r Marc Ansawdd.  Gall asiantaethau cyflenwi yng Nghymru gyflwyno cais i ymuno â'r cynllun hwn. 

 

39.Bydd y ddogfen ganllaw yn disgrifio rolau a chyfrifoldebau asiantaethau cyflenwi, a hefyd yn disgrifio'r safonau gofynnol y dylai ysgolion chwilio amdanynt wrth ddewis asiantaeth.

 

Prinder athrawon cyflenwi mewn rhai pynciau (gan gynnwys cyfrwng Cymraeg)

 

40.Nid yw Llywodraeth Cymru'n rheoli cyfansoddiad y gweithlu athrawon cyflenwi gan ei fod, i raddau, yn dewis ei hun ac nid yw bron byth yn gyson. Wrth gyfrif nifer y myfyrwyr ar gyrsiau Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon, mae Llywodraeth Cymru'n ystyried y boblogaeth gyfan o athrawon.

 

41.Caiff Model Cynllunio a Chyflenwi Athrawon ei ddefnyddio fel offeryn cynllunio'r gweithlu ar gyfer ceisio pennu nifer y myfyrwyr sy'n dechrau dilyn rhaglenni Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon yng Nghymru.  Caiff ei ddefnyddio fel sail ar gyfer cyfrifo nifer yr athrawon sydd eu hangen ar gyfer cynnal y lefelau gofynnol yng Nghymru.  Mae dwy elfen i'r Model Cynllunio a Chyflenwi: yn gyntaf Model Stoc Dymunol sy'n rhagweld nifer yr athrawon sydd eu hangen, ar sail nifer y disgyblion a ragwelir a chymarebau presennol disgybl-athro; ac yn ail Model Cyflenwad Athrawon, sy'n rhagweld nifer yr athrawon mewn swydd a gorgyflenwad/tangyflenwad o athrawon, o ystyried nifer yr athrawon sy'n ymuno â'r proffesiwn ac sy'n gadael.  Mae'r rhain yn cynnwys yr athrawon newydd gymhwyso sy'n ymuno â'r proffesiwn a phobl sy'n ailddechrau addysgu yng Nghymru, nifer yr athrawon sy'n gadael yn sgil ymddeol a nifer yr athrawon sy'n gadael am resymau eraill.

 

42.Er mwyn ceisio mynd i'r afael â meysydd â blaenoriaeth o ran recriwtio bydd Llywodraeth Cymru'n cynnig cymhellion ariannol yn y flwyddyn ariannol 2015/16 er mwyn cefnogi hyfforddiant cychwynnol athrawon mewn pynciau allweddol fel a ganlyn.  Nodwch fod y ffigurau mewn cromfachau yn y tabl sydd ynghlwm yn dangos cyfanswm y cymorth sy'n daladwy i'r myfyriwr, sef y taliad cymhelliant ynghyd â'r grant cymorth â ffioedd dysgu.

 

Cymhwyster gradd gyntaf y myfyriwr

Meysydd blaenoriaeth uchel

 

Mathemateg, Ffiseg, Cemeg, Cymraeg

Meysydd blaenoriaeth canolig

 

Ieithoedd Modern, TGCh (cyfrifiadureg)

Prif bynciau eraill addysg uwchradd ac addysg gynradd

(cefnogaeth lefel uchel yn unig)

 

Tâl atodol - addysg gynradd

Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth yn unig (arbenigedd mewn pwnc gradd er mwyn codi safonau llythrennedd a rhifedd a chefnogi gwyddoniaeth mewn ysgolion cynradd)

Dosbarth cyntaf

£20,000

         (£25,190)

 

£15,000

    (£20,190)

£3,000

(£8,190)

£3,000

 

2.1

 

£10,000

(£15,190)

£6,000

 

     (£11,190)

£0

£0

 

2.2

£6,000

(£11,190)

£0

£0

£0

 

43.Mae'r Cynllun Sabothol Iaith Gymraeg yn rhoi cyfle i athrawon, gan gynnwys athrawon cyflenwi, wella eu sgiliau Cymraeg y tu allan i'r ysgol.  Nod yr hyfforddiant yw gwella sgiliau iaith ymarferwyr o fewn y sector cyfrwng Cymraeg, gan gefnogi'r agenda Llythrennedd; a darparu hyfforddiant ar gyfer ymarferwyr o fewn y sector cyfrwng Saesneg er mwyn cyflenwi'r cwricwlwm Cymraeg Ail Iaith mewn ysgolion.